Datrysiad Firesmart
Mae FireSmart yn system asesu risg o dân sy’n syml i’w defnyddio ar lein. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddeddfwriaeth diogelwch tân i gwblhau’r broses. Cafodd ei ysgrifennu mewn iaith sy’n hawdd ei deall ac ni ddylai gymryd mwy nag awr, drwyddo draw. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid ichi ei gwblhau ar un ymweliad yn unig – gallwch fewngofnodi ac allgofnodi gymaint o weithiau ag sydd angen.
Am arddangosiad ar lein o’r system FireSmart cliciwch yma.
Caiff FireSmart ei gydnabod gan nifer o frigadau tân a’r gost yw £199 + TAW. Am eich arian cewch;
- Mynediad i’r safle a’i holl nodweddion am 12 mis
- Cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth mewn llai nag awr
- Mynediad diderfyn i ymgynghorwyr tân ar lein FireSmart
- A fydd yn eich cefnogi trwy gydol y broses asesu risg, os oes angen
- Sy’n cynnig cyngor ar faterion cyffredinol yn ymwneud â diogelwch rhag tân, trwy gydol cyfnod y drwydded
|